Yr hyn a wnawn

Rydyn ni’n gweithio i ddiogelu, cynorthwyo a grymuso grwpiau o bobl sydd yn aml yn anweladwy mewn cymdeithas. Caiff ein prosiectau eu harwain gan staff rheng flaen arbenigol y mae gwella bywydau pobl agored i niwed yn genhadaeth iddyn nhw.


Cliciwch ar y dolenni isod i neidio i’r adrannau canlynol:

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un. Rydyn ni’n gweithio gyda dynion a menywod ar draws Cymru sy’n cael profiad o unrhyw fath o drais yn y cartref, ac rydyn ni’n rhoi mynediad iddyn nhw i wasanaethau cymorth a diogelwch.  


Cliciwch yma i neidio i’r adrannau canlynol:

Help i Fenywod

Mae Cymru Ddiogelach yn darparu gwasanaeth premiwm i fenywod sy’n destun cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ardal Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth er mwyn cynyddu diogelwch a iechyd mewn perthynas â thrais yn y cartref a thrais rhywiol.

Mae tîm Cymru Ddiogelach yn Ymgynghorwyr ISDVA (Ymgynghorwyr Annibynnol Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol) profiadol sydd wedi’u cymhwyso’n llawn. Rydyn ni’n gweithio’n agos ag asiantaethau statudol a gwirfoddol, gan gynnwys asiantaethau cyffuriau ac alcohol, adran dai Cyngor Dinas Caerdydd, cymdeithasau tai, y Ganolfan Atgyfeirio Camdriniaeth Rywiol (SARC), gwasanaethau addysg a phlant a gwasanaethau iechyd.

Am fwy o wybodaeth lawrlwythwch ein taflen am yr Uned Diogelwch Menywod.

A ydych chi mewn perygl o gam-drin domestig? 

A yw eich partner erioed wedi:

  • Ymddwyn mewn ffordd eiddigeddus / sy’n dangos rheolaeth drosoch?

  • Dweud neu wneud unrhyw beth o natur rywiol sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu sydd wedi’ch brifo?

  • Eich brifo’n gorfforol?

  • Eich bygwth, eich tanseilio neu’ch gwneud i deimlo’n fach?

A ydych chi’n meddwl:

Bod y cam-drin yn mynd yn waeth neu’n amlach?

  • Bod y cam-drin yn effeithio ar eich plant neu’n eu niweidio?

  • Y gallai eich partner eich lladd?

  • Eich bod am ymadael â’ch partner ond mae ofn arnoch wneud hyn?

  • Bod rhywun yn eich stelcian?

Ffoniwch ni ar 029 2022 0033.

Nodwch fod staff yn ein swyddfeydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9am–5pm

Am gymorth 24-awr, ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Oft ar 0808 80 10 800 

MEWN ARGYFWNG PEIDIWCH AG OEDI – FFONIWCH 999

Help i Ddynion

Mae gan bob dyn yr hawl i deimlo’n ddiogel.

Mae cam-drin domestig yn ymwneud â grym a rheolaeth un person dros rywun arall, a gall ddigwydd i unrhyw un. Mae ein Prosiect Dyn yn darparu cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a dynion traws sy’n destun cam-drin gan bartner.

Rydyn ni’n darparu cymorth cyfrinachol a help i ddynion sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig i ddod o hyd i’r gwasanaethau gorau sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio diogelwch, cyfeirio at wasanaethau ar draws Cymru, cyngor a chymorth emosiynol. 

A ydych chi mewn perygl? 

A yw eich partner erioed wedi:

  • Ceisio eich rheoli chi?

  • Eich brawychu?

  • Gweiddi arnoch chi?

  • Bygwth eich anafu neu’ch lladd chi?

  • Cadw arian wrthoch chi?

  • Bygwth mynd â’ch plant wrthoch chi?

  • Galw enwau sarhaus neu ymosodol arnoch chi?

  • Ceisio rheoli eich symudiadau?

  • Eich atal rhag cysylltu â theulu a ffrindiau?

Os ydych chi erioed wedi wynebu unrhyw driniaeth fel hyn gan eich partner, mae’n bosibl eich bod yn destun rhyw fath o gam-drin domestig. 

Gallwch gael help nawr

Ffoniwch Linell Gymorth Dyn am gymorth a chyngor ar 0808 80 10 321 (ar agor dydd Llun a dydd Mawrth 10am–4pm a dydd Mercher 10am – 1pm)

Am gymorth 24-awr, ffoniwch Linell Gymorth am ddim Byw Heb Ofn a 0808 80 10 800 

MEWN ARGYFWNG PEIDIWCH AG OEDI – FFONIWCH 999

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed er mwyn gwella’u mynediad i wasanaethau a rhoi dyfodol diogelach iddyn nhw.

Prosiect yw Gwasanaeth Cynhwysol Cymru Ddiogelach (SWIS) i ferched ifanc rhwng 12 a 16 oed sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol. Mae SWIS yn darparu gwaith un i un a gwaith grŵp sy’n canolbwyntio ar annog dewisiadau ffordd o fyw cadarnhaol.

Caiff y gweithgareddau eu strwythuro o fewn amserlen y tymor ac maen nhw’n cynnwys; bwyta’n iach, lleiafu straen, perthnasau iach, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ac iechyd rhywiol. Caiff y sesiynau hyn eu hwyluso gan staff Cymru Ddiogelach a mentoriaid gwirfoddol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Donna Tucker atdmt@saferwales.com

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am wirfoddoli gyda phobl ifanc.